Over the Rainbow [Welsh translation]
Over the Rainbow [Welsh translation]
Rhywle draw dros yr enfys, fry’n y nen
Clywais sôn am afallon, unwaith mewn breuddwyd wen
Rhywle draw dros yr enfys, pêr yw'r swyn
A daw melus atgofion i mi ar awel fwyn.
Rhyw ddydd breuddwydiaf yn y sêr,
A deffro lle mae'r awel bêr felysach
Lle cilia pob rhyw feddwl cas i fyny tua'r wybren las
Fel hyn y canaf.
Rhywle draw dros yr enfys, adar mân
Hedant draw dros yr enfys yno llon eu cân.
Rhyw ddydd breuddwydiaf yn y sêr,
A deffro lle mae'r awel bêr felysach
Lle cilia pob rhyw feddwl cas i fyny tua'r wybren las
Fel hyn y canaf.
Os hêd yr adar bychan bry
Tu draw i'r enfys, pam na hedaf i?
- Artist:Judy Garland
See more