Mil harddach lyrics

Songs   2024-07-07 06:28:59

Mil harddach lyrics

Mil harddach wyt na'r rhosyn gwyn

Na'r rhosyn coch ar ael y bryn,

Na'r alarch balch sy'n nofio'r llyn,

Fy maban bach.

Mwy swynol yw dy chwerthin mwyn

Na chân y fronfraith yn y llwyn,

Na murmur môr o ben y twyn,

Fy maban bach.

Mwy annwyl wyt na'r oenig gwyn

Na'r blodau tlws ar ochrau'r bryn,

Na dawnsio heulwen ar y llyn,

Fy maban bach.

Mil gwell gen i nag aur y byd,

Yw gweld dy wenau yn dy grud,

Fy ffortiwn wyt, a gwyn fy myd,

Fy maban bach.

See more
Irish/Scottish/Celtic Folk more
  • country:
  • Languages:English, Welsh, Gaelic (Scottish Gaelic), Gaelic (Irish Gaelic)+3 more, English (Scots), Other, Cornish
  • Genre:Folk
  • Official site:
  • Wiki:https://en.wikipedia.org/wiki/Celtic_music
Irish/Scottish/Celtic Folk Lyrics more
Irish/Scottish/Celtic Folk Also Performed Pyrics more
Excellent Songs recommendation
Popular Songs
Copyright 2023-2024 - www.lyricf.com All Rights Reserved