Cân y melinydd lyrics

Songs   2024-07-07 06:57:30

Cân y melinydd lyrics

Mae gen i dý cysurus

A melin newydd sbon

A thair o wartheg brithion 

Yn pori ar y fron.

Chorus

Weli di, weli di, Mari fach 

Weli di, Mari annwyl 

Mae gen i drol a cheffyl 

A merlyn bychan twt 

A deg o ddefaid tewion 

A mochyn yn y cwt.

Mae gen i gwpwrdd cornel 

Yn llawn o lestri te 

A dresel yn y gegin 

A phopeth yn ei le.

Mae gen i ebol melyn 

Yn codi'n bedair oed

A phedair pedol arian 

O dan ei pedwar troed. 

Mi neidith a mi brancith 

O dan y feinir wen, 

Mi redith ugain milltir 

Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben. 

Mae gen i iâr a cheiliog,

A buwch a mochyn tew 

A rhwng y wraig a minnau,

Wy'n ei gwneud hi yn o lew' 

Fe aeth yr iâr i rodio,

I Arfon draw mewn dig 

A daeth yn ôl un diwrnod 

A'r Wyddfa yn ei phig.

See more
Irish/Scottish/Celtic Folk more
  • country:
  • Languages:English, Welsh, Gaelic (Scottish Gaelic), Gaelic (Irish Gaelic)+3 more, English (Scots), Other, Cornish
  • Genre:Folk
  • Official site:
  • Wiki:https://en.wikipedia.org/wiki/Celtic_music
Irish/Scottish/Celtic Folk Lyrics more
Irish/Scottish/Celtic Folk Also Performed Pyrics more
Excellent Songs recommendation
Popular Songs
Copyright 2023-2024 - www.lyricf.com All Rights Reserved