Rhodd lyrics

Songs   2025-01-01 00:08:48

Rhodd lyrics

Yn y pridd

Mae ein hadau ni,

Ga ni weld nhw'n tyfu

I mewn i rywbeth gwell

Ger y llyn

Yn eu dyfnder hi

Rhwydo gwres y dŵr

Yn hel atgofion

Mae'r ffordd yn hir

Ond, ambell waith,

Gall rhodd

Gael ei ollwng

Ar dy draed

Amser hir

Ers i ni weld nhw

Licris ar fy llw

'Naeth i fi deimlo'n sâl

Ar y dde

Roedd y tannau'n wyn

A dy wyneb di'n lun

O fod yn rywbeth gwell.

Mae'r ffordd yn hir

Ond, ambell waith,

Gall rhodd

Gael ei ollwng

Ar dy draed

Yn y pridd

Mae'n cyndadau ni, ei'n tadau ni.

Be 'allwn ni ddysgu

I fod yn rywbeth gwell

Bob dydd

Mae nhw'n newid ni,

Dŵr ar wefusau sych.

Sy' byth yn ildio.

Mae'r ffordd yn hir

Ond, nid oes bai

Dyma rodd

Ar fodiau dy draed

See more
Iwan Rheon more
  • country:United Kingdom
  • Languages:English, Welsh
  • Genre:Folk, Indie, Rock
  • Official site:
  • Wiki:https://en.wikipedia.org/wiki/Iwan_Rheon
Iwan Rheon Lyrics more
Excellent Songs recommendation
Popular Songs
Copyright 2023-2025 - www.lyricf.com All Rights Reserved